Wicidestun
cywikisource
https://cy.wikisource.org/wiki/Hafan
MediaWiki 1.39.0-wmf.25
first-letter
Media
Arbennig
Sgwrs
Defnyddiwr
Sgwrs Defnyddiwr
Wicidestun
Sgwrs Wicidestun
Delwedd
Sgwrs Delwedd
MediaWici
Sgwrs MediaWici
Nodyn
Sgwrs Nodyn
Cymorth
Sgwrs Cymorth
Categori
Sgwrs Categori
Tudalen
Sgwrs Tudalen
Indecs
Sgwrs Indecs
TimedText
TimedText talk
Modiwl
Sgwrs modiwl
Gadget
Gadget talk
Gadget definition
Gadget definition talk
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/59
104
20471
39262
2022-08-22T12:23:01Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ond erbyn i mi ddeffro, fo a'm dygasai i ryw ffordd allan o
bellder y tu arall i'r gaer; mi'm gwelwm mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac i'm tyb i, nid oedd dyben arno:
ac ym mhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel canwyll ar
ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif o gysgodion dynion,
rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel y
gwynt, yn ddystaw ac yn ddifrifol aruthr: a gwlad ddiffrwyth,
lom, adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed, nac anifail,
oddi eithr gwylltfilod marwol a phryfod gwenwynig o bob
math; seirff, nadroedd, llau, llyffaint, llyngyr, locustiaid, pryf
y bendro, a'r cyffelyb oll sy'n byw ar lygredigaeth dyn. Trwy
fyrddiwn o gysgodion ac ymlusgiaid, a beddi, a monwentau, a
beddrodau, ni aethom ym mlaen i weled y wlad yn ddirwystr,
tan na welwn<ref>Tan na welwn=hyd oni welwn; nes y gwelwn.</ref> i rai yn troi ac yn edrych arnaf; a chwipyn,
er maint oedd y distawrwydd o'r blaen, dyma si o'r naill i'r
llall, fod yno ddyn bydol.<ref>Sef, dyn o'r byd, dyn daiarol.</ref> Dyn bydol!' ebr un; 'Dyn bydol!'
eb y llall; tan ymdyru ataf, fel y lindys, o bob cwr. 'Pa
fodd y daethoch, Syre?' ebr rhyw furgyn o Angeu bach oedd
yno. 'Yn wir, Syr,' ebr fi, 'nis gwn i mwy na chwithau.'
Beth y gelwir chwi,' ebr yntau? 'Gelwch fi yma fel y
mynoch yn eich gwlad eich hun, ond fe'm gelwid i gartref,
Bardd Cwsg.'
Ar y gair, gwelwn gnap o henddyn gwargam, a'i ddeupen
fel miaren gen lawr, yn ymsythu, ac yn edrych arnaf yn waeth
na'r dieflyn coch; a chyn dywedyd gair, dyma fe'n taflu
penglog fawr heibio i'm pen i. Diolch i'r gareg fedd a'm
cysgododd. 'Llonydd, Syr, ertolwg,' ebr fi, 'i ddyn dyeithr
na fu yma erioed o'r blaen, ac ni ddaw byth, pe cawn unwaith
ben y ffordd adref.' Mi wnaf i chwi gofio eich bod yma,' eb
ef, ac eilwaith ag asgwrn morddwyd, gosododd arnaf yn
gythreulig, a minnau yn osgoi fy ngoreu. 'Beth,' ebr fi,
dyma wlad anfoesol iawn i ddyeithriaid; oes yma un ustus
o heddwch?' 'Heddwch,' ebr yntau, 'pa heddwch a haeddit
ti, na adewit lonydd i rai yn eu beddi?' 'Atolwg, Syr,'
ebr fi, 'a gawn i wybod eich henw chwi; o blegid nis gwn i
flino ar neb o'r wlad yma erioed.' 'Syre,' ebr yntau, gwybyddwch mai fi, ac nid chwi, yw'r Bardd Cwsg; ac a ges lonydd yma er's naw cant o flynyddoedd gan bawb ond chwychwi;' ac a aeth i'm cynnyg i drachefn.
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
exe5kj6vccctoll6cqb2r9so6v6h42d
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/60
104
20472
39263
2022-08-22T12:38:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Peidiwch, fy mrawd,' ebr Merddyn,<ref>Sonir yn gyffredin am ddau o'r enw ''Merddyn'' neu ''Myrddin''; sef, Myrddin Emrys a Myrddyn ab Morfryn, yr hwn a elwir hefyd Myrddin Wyllt; ond y mae yn gryn debygol mai yr un oeddynt, er yr honir i'r naill flodeuo yng nghylch can mlynedd o flaen y llall. Cyfrifir yn gyffredin fod Myrddin Emrys yn byw tua chanol y bummed, a Myrddin Wyllt o ddeutu canol y chweched ganrif o gyfrif Cred. Ystyrir Myrddin yn ddewin a phrophwyd nodedig yn ei ddydd; ac y mae llawer o chwedlau am dano, ac o brophwydoliaethau yn cael eu tadogi arno, yng Nghymru hyd heddyw. Gweler y ''Brutiau Cymreig (Myvyrian Archaiology, ii.)'', a ''Drych o Prif Oesoedd (arg. Caerfyrddin, 1863, t. 102, 103.)'' Cynnwysa yr unrhyw Frutiau lawer o chwedlau dyddorol ond disail am Brutus ab Silvius ab Ascanius ab Eneas Ysgwyddwyn, a'i helyntion a'i anturiaethau yn yr Ital, yng ngwlad Groeg, yug Ngal, ac yn Ynys Prydain.</ref> oedd yn agos; 'na
fyddwch ryboeth; diolchwch iddo yn hytrach am gadw coffadwriaeth parchus o'ch enw ar y ddaiar.' 'Yn wir, parch mawr,' eb yntau, 'oddi wrth y fath benbwl a hwn. A fedrwch
chwi, Syre, ganu ar y pedwar mesur ar hugain? a fedrwch chwi ddwyn achau Gog a Magog, ac achau Brutus ab Silvius hyd gan—mlwydd cyn difa Caer Troia? A fedrwch chwi frutio
pa bryd, a pheth a fydd diwedd y rhyfeloedd rhwng y llew a'r
eryr, a rhwng y ddraig a'r carw coch? ha!' 'Hai! gadewch
i minnau ofyn iddo gwestiwn,' ebr un arall, oedd wrth efyddan<ref>Neu, efydden=padell efydd; pair.</ref>
fawr yn berwi, ''soc, soc, dy gloc, dy gloc''.<ref>Dychymmygeiriau, oddi wrth swn pair yn berwi. Gwel t. 53, n. 2.</ref> Tyred yn nes ebr ef, beth yw meddwl hyn?'—
{{center block|
<poem>
Mi fyddaf hyd ddydd—brawd,
Ar wyneb daiar—brawd,
Ac ni wyddys beth yw 'nghnawd,
Ai cig ai pysgawd,'
</poem>
}}
Dymunaf eich henw, Syr,' ebr fi, 'fel y'ch atebwyf yn gymhwysach.' 'Myfi,' ebr ef, 'yw Taliesin Ben Beirdd y Gorllewin, a dyna beth o'm difrogwawd<ref>Neu, difregawd=gofyniad neu holiad dychymmygol; ymadrodd â dirgelwch ynddo; prydyddiaeth ddammegol; dychymmyg, gorchan.</ref> i. 'Nis gwn i ebr finnau, beth a allai eich meddwl fod, onid allai'r fad felen<ref>Y fad neu fall felen y gelwir yr haint y bu Maelgwn Gwynedd, brenin y Brython yn y chweched ganrif, farw o honi.</br>"Tair haint echrys Ynys Prydain —Ail, Haint y fad felen o Ros; ac achos celaneddau y lladdedigion y bu hono; ac od elai neb o fewn
eu gwynt, cwympo yn farw yn ddioed a wnelai.'—''Trioedd (Myv.Arch. ii. 59)''.</br>'Ac mewn eglwys yn ymyl Dyganwy y bu [Maelgwn Gwynedd] farw, pan weles y fad felen drwy dwll dor yr eglwys.'—''Brut Gr. ab Arthur.''</ref> a<noinclude><references/></noinclude>
g5app6fzkwf6uay6qo6thqvw6e2tzdn
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/61
104
20473
39264
2022-08-22T12:55:52Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ddyfethodd Faelgwn Gwynedd, eich lladd chwithau ar y
feisdon,<ref>Glan y môr, traeth, traethell, tywyn.</ref> a'ch rhanu rhwng y brain a'r pysgod.' 'Taw, ffwl,' ebr
ef, 'brutio yr oeddwn i am fy nwy alwedigaeth, gwr o gyfraith
a phrydydd: aph'run, meddi di yr awran, debycaf ai cyfreithiwr
i gigfran reibus, ai prydydd i forfil? Pa sawl un a ddigiga un
cyfreithiwr i godi ei grombil oi hun? ac O! mor ddifater y
gollwng e'r gwaed, a gadael dyn yn lledfarw! A'r prydydd
yntau, pa le mae'r pysgodyn sy'r un lwnc ag ef! ac mae hi yn
for arno bob amser, eto ni thyr y môr heli mo'i syched ef. Ac
erbyn y bai ddyn yn brydydd ac yn gyfreithiwr, pwy a ŵyr
pa'r un ai cig ai pysgod fyddai: ac yn sicr, os byddai yn un
o wyr llys, fel y bûm i,<ref>Buasai Taliesin yn un o wyr llys Urien Rheged, Gwyddno Garanhiir, a'r Brenin Arthur</ref> ac yn gorfod iddo newid ei flas at bob
geneu. Ond dywed i mi,' ebr ef, 'a oes yr awran nemor o'r
rhai hyny ar y ddaiar?' 'Oes,' ebr finnau, 'ddigon; os medr
un glytio rhyw fath ar ddyri,<ref>Neu, dyrif cerdd tôn a goslef; canu ar fesur rhydd; cân rydd. Mesur cyn cof yw dyri-Barddas.</ref> dyna fe'n gadeirfardd. Ond o'r
lleill,' ebr fi, mae'r fath bla yn gyfarthwyr, yn fân dwrneiod,<ref>'Twrneiod'=''attorneys'': cyfreithwyr, dirprwywyr cyfreithiol.</ref>
a chlarcod,<ref>'Clarcod'=''clerks'': ysgrifenyddion, ysgrifweision.</ref> nad oedd locustiaid yr Aipht ddim pwys ar y wlad
wrthi rhai hyn. Nid oedd yn eich amser chwi, Syr, ond
bargeinion bol clawdd, a lled llaw o ysgrifen am dyddyn canpunt, a chodi carnedd, neu goeten Arthur, yn goffadwriaeth
o'r pryniant a'r terfynau. Nid oes mo'r nerth i hyny yr
awran, ond mae chwaneg o ddichell ddyfeisddrwg, a chyfied a
chromlech o femrwn ysgrifenedig i sicrhau'r fargen; ac er
hyny, odid na fydd, neu fe fynir, rhyw wendid ynddi.'
Wel, wel,' ebr Taliesin, 'ni thalwn i yno ddraen; ni waeth
genyf lle yr wyf: ni cheir byth ''wir'' lle bo llawer o feirdd, na
''thegwch'' lle bo llawer o gyfreithwyr, nes y caffer iechyd lle bo
llawer o ''physigwyr''.'
Yn hyn, dyma ryw swbach<ref>'Swbach'=peth wedi ymwasgu neu ymgrynoi yng nghyd; a fo yn swp neu grynswth; sypyn, sybwrn; sypyn o ddyn; cleb, cleirchyn, sybidyn, cor, corach.</ref> henllwyd bach, a glywsai fod
yno ddyn bydol, yn syrthio wrth fy nhraed, ac yn wylo
ya hidl. Ocho druan!' ebr fi, 'beth wyt ti?' 'Un sy'n
cael gormod o gam yn y byd beunydd,' ebr yntau; 'fe ga<noinclude><references/></noinclude>
szf0fsig76qdcqyq7bmg1niag605a8z
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/62
104
20474
39265
2022-08-22T13:25:15Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>eich enaid chwi fynu i mi uniondeb.' 'Beth,' ebr fi, 'y
gelwir di? Fe a'm gelwir i Rhywun,' ebr ef; 'ac nid oes na
llateiaeth,<ref>Cenadwri rhwng cariadau; negesiaeth yn achos cariad.</ref> nac athrod, na chelwyddau, na chwedlau, i yru rhai
benben, nad arnaf fi y bwrir y rhan fwyaf o honynt. "Yn
wir," medd un, "mae hi yn ferch odiaeth, ac hi fu yn eich canmol chwi wrth Rywun, er bod Rhywun mawr yn ei cheisio hi."
"Mi a glywais Rywun," medd y llall, "yn cyfrif naw cant o
bunnau o ddyled ar yr ystâd hòno." "Gwelais Rywun ddoe,"
medd y cardotyn, "â chadach brith fel moriwr, a ddaethai â
llong fawr o yd i'r borth<ref>Porthladd, porthfa.</ref> nesaf;" ac felly pob cerpyn a'm llurgynia i i'w ddrwg ei hun. Rhai a'm geilw i yn Ffrind.''Friend'': cyfaill. "Mi
ges wybod gan Ffrind," medd un, "nad oes ym mryd hwn a
hwn adael ffyrling i'w wraig, ac nad oes dim diddigrwydd
rhyugthynt." Rhai ereill a'm diystyrant i ym mhellach, gan fy
ngalw yn Frân: "Fe ddywed Brân i mi fod yno gastiau drwg,"
meddant. Ië, rhai a'm geilw ar henw parchedicach yn Henwr;
eto nid eiddof fi hanner y coelion, a'r brutiau,<ref>Ystorïau, hanesion; daroganan</ref> a'r cynghorion
a roir ar yr Henwr; ni pherais i erioed ddilyn yr hen-ffordd,
os byddai'r newydd yn well; ac ni feddyliais i erioed warafun
cyrchu i'r Eglwys wrth beri—"Na fynych dramwy lle bo mwyaf
dy groeso;" na chant o'r fath. Ond Rhywun yw fy onw cyffredinaf i,' ebr ef; 'hwnw a gewch chwi glywed fynychaf ym
mhob mawrddrwg; o blegid gofynwch i un, lle dywedpwyd y
mawrgelwydd gwaradwyddus, pwy a'i dywed; "Yn wir," medd
yntau, "nis gwn i pwy, ond fo'i dywed Rhywun yn y cwmni;"
holi pawb o'r cwmpeini am y chwedl, fe'i clybu pawb gan Rywun, ond nis gŵyr neb gan bwy. Onid yw hyn yn gam cywilyddus?' ebr ef. Ertolwg, a hysbyswch chwi i bawb a glywoch yn fy henwi, na ddywedais i ddim o'r pethau hyn? Ni
ddyfeisiais ac ni adroddais i gelwydd erioed i waradwyddo neb,
nac un chwedl i yru ceraint bendramwnwgl â'u gilydd; nid wyf
yn dyfod ar eu cyfyl;<ref>'Ar eu cyfyl'= yn agos atynt.</ref> nis gwn i ddim o'u hystorïau, na'u masnach, na'u cyfrinach felltigedig hwy; na wiw iddynt fwrw mo'u
drygau arnaf fi, ond ar eu hymenyddiau llygredig eu hunain.'
Ar hyn, dyma Angeu bach, un o ysgrifenyddion y brenin,
yn gofyn i mi fy henw, ac yn peri i Meistr Cwsg fy nwyn i yn<noinclude><references/></noinclude>
k5m99xs5zgav9a9430cfi1kyy0kis3u
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/63
104
20475
39266
2022-08-23T10:57:59Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>ebrwydd ger bron y brenin. Gorfod myned o'm llwyr anfodd,
gan y nerth a'm cipiodd fel corwynt, rhwng uchel ac isel,
filoedd o filltiroedd yn ei hol ar y llaw aswy, oni ddaethom
eilwaith i olwg y wal derfyn; ac mewn congl gaeth, ni
welem: glogwyn o lys candryll penegored dirfawr, yn cyrhaedd
hyd at y wal lle yr oodd y drysau ancirif, a'r rhai hyny oll yn
arwain i'r anferth lys arswydus hwn: â phenglogau dynion y
gwnelsid y muriau,<ref>Cymharer hanes y llys hwn â'r darluniad o Garchar Oeth ac Anoeth, yn ''Ysgriflyfrau Iolo, t. ''185-7.</ref> a'r rhai hyny yn ysgyrnygu dannedd
yn erchyll; du oedd y clai, wedi ei gyweirio trwy ddagrau
a chwys; a'r calch oddi allan yn frith o phlêm<ref>''Phlegm'': llysnafedd, cornboer.</ref> a chrawn; ac
oddi fewn o waed dugoch. Ar ben bob tŵr, gwelid Angeu
bach, â chanddo galon dwymn ar flaen ei saeth. O amgylch
y llys yr oedd rhai coed ambell ywen wenwynig, a cypreswydden farwol; ac yn y rhai hyny yr oedd yn nythu ddylluanod, cigfrain, ac adar y cyrff, a'r cyfryw, yn crëu<ref>'Crëu'=crawcio; crefu; erfyn.</ref> am gig fyth, er
nad oedd y fangre oll ond un gigfa fawr ddrewedig. O esgyrn morddwydydd dynion y gwnelsid holl bilerau'r neuadd; a philerau'r parlwr o esgyrn y coesau; a'r lloriau yn un walfa
o bob cigyddiaeth.
Ond ni ches i fawr aros, nad dyma yng ngolwg allor fawr
arswydus, lle gwelem y brenin dychrynadwy yn traflyncu cig
a gwaed dynion, a mil o fân angeuod, o bob twll, yn ei borthi
fyth â chig ir twymn. 'Dyma,' eb yr Angeu a'm dygasai i
yno, 'walch a ges i yng nghanol Tir Anghof, a ddaeth mor ysgafn-droed, na phrofodd eich mawrhydi damaid o hono erioed.'
Pa fodd y gall hyny fod?' ebr y brenin, ac a ledodd ei hopran<ref>Yma, safn, ceg.</ref>
cyfled a daiargryn i'm llyncu. Ar hyn, mi a drois tan grynu
at Gwsg. 'Myfi,' ebr Cwsg, 'a'i dygais ef yma.' 'Wel,' ebr
y brenin cul ofnadwy, er mwyn fy mrawd Cwsg, chwi ellwch
fyned i droi eich traed am y tro yma; ond gwyliwch fi'r tro
nesaf.' Wedi iddo fod ennyd yn bwrw celanedd i'w geubal<ref>Yn briodol bad, cwch, neu ysgraff; ond yma, ceudod, crul, bol.</ref>
ddiwala, parodd roi dyfyn<ref>'Rhoi dyfyn'=gwysio, rhoi gwys, rhybuddio, galw ger bron.</ref> i'w ddeiliaid, ac a symmudodd o'r
allor i orseddfainc echryslawn dra uchel, i fwrw'r<ref>Barnu, dyfarnu, dedfrydu.</ref> carcharorion newydd ddyfod. Mewn mynyd, dyma'r meirw, fwy<noinclude><references/></noinclude>
fb9t23me3ruffdpai17i7aousfbeh1q
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/64
104
20476
39267
2022-08-23T11:14:03Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na rhif o fynteioedd, yn gwneyd eu moes i'r brenin, ac yn
cymmeryd eu lle mewn trefn odiaeth. A'r brenin Angeu yn ei
freninwisg o ysgarlad gloewgoch, ag hyd-ddi luniau gwragedd a phlant yn wylo, a gwyr yn ocheneidio; ac am ei ben gap
dugoch trichonglog (a yrasai ei gâr Luciffer yn anrheg iddo); ar
ei gonglau ysgrifenasid, 'Galar, a griddfan, a gwae.' Uwch
ei ben yr oedd myrdd o luniau rhyfeloedd ar fôr a thir; trefi
yn llosgi, y ddaiar yn ymagor, a'r dwr diluw; a than ei draed
nid oedd ond coronan a theyrnwiail yr holl freninoedd a
orchfygasai fe erioed. Ar ei law ddeheu yr oedd Tynged yn
eistedd, ac â golwg ddu ddel<ref>'Del'=caled, anhyblyg, anhydyn: hefyd, pert, gwych, tlws, dillyn.{{c|Ni bu haid, ddiawliaid! ''ddelach'' eu gwahodd,</br>Ni bu ieir un fodd, na brain feddwach.</br>
——L. G. Cothi, V. vi. 31.</br>Gwr du i daflu gair del.—T. Prys.}}</ref> yn darllen anferth lyfr oedd o'i
flaen: ac ar y llaw aswy yr oedd henddyn a elwid Amser, yn
dylifo<ref>Ystofi; gosod edafedd yn y gwydd</ref> aneirifo edafedd aur, ac edafedd arian, a chopr, a haiarn
lawer iawn, ac ambell edyf yn prifio yn well at ei diwedd;
a myrddiwn yn prifio yn waeth. Hyd yr edafedd yr oedd oriau,
diwrnodau, a blynyddoedd; a Thynged wrth ei lyfr yn tori yr
edafedd einioes, ac yn egor drysau'r wal dorfyn rhwng y ddau fyd.
Ni chawswn i fawr edrych na chlywn alw at y bar bedwar
o ffidleriaid oedd newydd farw. Pa fodd,' ebr brenin y
dychryn, 'a däed genych lawenydd, na ddaliasech chwi o'r tu
draw i'r agendor? canys ni fu o'r tu yma i'r cyfwng lawenydd
erioed.' 'Ni wnaethom ni,' ebr un cerddor, ddrwg i neb erioed,
ond eu gwneyd yn llawen, a chymmeryd yn ddystaw a gaem
am ein poen." 'A gadwasoch chwi neb,' ebr Angeu, 'i golli
eu hamser oddi wrth eu gorchwyl, neu o fyned i'r Eglwys? ha!'
'Na ddo,' ebr un arall, oddi eithr bod ambell Sul wedi gwasanaeth yn y tafarndy tan dranoeth, neu amser haf mewn twmpath chwareu; ac yn wir, yr oeddym ni yn gariadusach ac yn
lweusach<ref>Lwcusach' (o'r Seis, ''lucky'')=ffodusach, mwy ffodiog</ref> am gynnulleidfa na'r person.' 'Ffwrdd, ffwrdd a'r
rhai hyn i Wlad yr Anobaith,' ebr y brenin ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu<ref>Rhwbio neu rwtio (ar y tannau)</ref> fyth heb na chlod na chlera.'<noinclude><references/></noinclude>
e4pgp12x7u0sntly945p80hys33gi31
39268
39267
2022-08-23T11:15:04Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na rhif o fynteioedd, yn gwneyd eu moes i'r brenin, ac yn
cymmeryd eu lle mewn trefn odiaeth. A'r brenin Angeu yn ei
freninwisg o ysgarlad gloewgoch, ag hyd-ddi luniau gwragedd a phlant yn wylo, a gwyr yn ocheneidio; ac am ei ben gap
dugoch trichonglog (a yrasai ei gâr Luciffer yn anrheg iddo); ar
ei gonglau ysgrifenasid, 'Galar, a griddfan, a gwae.' Uwch
ei ben yr oedd myrdd o luniau rhyfeloedd ar fôr a thir; trefi
yn llosgi, y ddaiar yn ymagor, a'r dwr diluw; a than ei draed
nid oedd ond coronan a theyrnwiail yr holl freninoedd a
orchfygasai fe erioed. Ar ei law ddeheu yr oedd Tynged yn
eistedd, ac â golwg ddu ddel<ref>'Del'=caled, anhyblyg, anhydyn: hefyd, pert, gwych, tlws, dillyn.{{c|Ni bu haid, ddiawliaid! ''ddelach'' eu gwahodd,</br>Ni bu ieir un fodd, na brain feddwach.</br>
——''L. G. Cothi, V. vi. 31''.</br>Gwr du i daflu gair del.—''T. Prys''.}}</ref> yn darllen anferth lyfr oedd o'i
flaen: ac ar y llaw aswy yr oedd henddyn a elwid Amser, yn
dylifo<ref>Ystofi; gosod edafedd yn y gwydd</ref> aneirifo edafedd aur, ac edafedd arian, a chopr, a haiarn
lawer iawn, ac ambell edyf yn prifio yn well at ei diwedd;
a myrddiwn yn prifio yn waeth. Hyd yr edafedd yr oedd oriau,
diwrnodau, a blynyddoedd; a Thynged wrth ei lyfr yn tori yr
edafedd einioes, ac yn egor drysau'r wal dorfyn rhwng y ddau fyd.
Ni chawswn i fawr edrych na chlywn alw at y bar bedwar
o ffidleriaid oedd newydd farw. Pa fodd,' ebr brenin y
dychryn, 'a däed genych lawenydd, na ddaliasech chwi o'r tu
draw i'r agendor? canys ni fu o'r tu yma i'r cyfwng lawenydd
erioed.' 'Ni wnaethom ni,' ebr un cerddor, ddrwg i neb erioed,
ond eu gwneyd yn llawen, a chymmeryd yn ddystaw a gaem
am ein poen." 'A gadwasoch chwi neb,' ebr Angeu, 'i golli
eu hamser oddi wrth eu gorchwyl, neu o fyned i'r Eglwys? ha!'
'Na ddo,' ebr un arall, oddi eithr bod ambell Sul wedi gwasanaeth yn y tafarndy tan dranoeth, neu amser haf mewn twmpath chwareu; ac yn wir, yr oeddym ni yn gariadusach ac yn
lweusach<ref>Lwcusach' (o'r Seis, ''lucky'')=ffodusach, mwy ffodiog</ref> am gynnulleidfa na'r person.' 'Ffwrdd, ffwrdd a'r
rhai hyn i Wlad yr Anobaith,' ebr y brenin ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu<ref>Rhwbio neu rwtio (ar y tannau)</ref> fyth heb na chlod na chlera.'<noinclude><references/></noinclude>
elvs5efa4f3vb4cetiq3pg6udoau6ny
39269
39268
2022-08-23T11:15:40Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>na rhif o fynteioedd, yn gwneyd eu moes i'r brenin, ac yn
cymmeryd eu lle mewn trefn odiaeth. A'r brenin Angeu yn ei
freninwisg o ysgarlad gloewgoch, ag hyd-ddi luniau gwragedd a phlant yn wylo, a gwyr yn ocheneidio; ac am ei ben gap
dugoch trichonglog (a yrasai ei gâr Luciffer yn anrheg iddo); ar
ei gonglau ysgrifenasid, 'Galar, a griddfan, a gwae.' Uwch
ei ben yr oedd myrdd o luniau rhyfeloedd ar fôr a thir; trefi
yn llosgi, y ddaiar yn ymagor, a'r dwr diluw; a than ei draed
nid oedd ond coronan a theyrnwiail yr holl freninoedd a
orchfygasai fe erioed. Ar ei law ddeheu yr oedd Tynged yn
eistedd, ac â golwg ddu ddel<ref>'Del'=caled, anhyblyg, anhydyn: hefyd, pert, gwych, tlws, dillyn.{{c|Ni bu haid, ddiawliaid! ''ddelach'' eu gwahodd,</br>Ni bu ieir un fodd, na brain feddwach.</br>
——''L. G. Cothi'', V. vi. 51.</br>Gwr du i daflu gair del.—''T. Prys''.}}</ref> yn darllen anferth lyfr oedd o'i

qt7pfbp8n8x2flb68j1j94fkikl359d
39270
39269
2022-08-23T11:16:34Z

rhai hyn i Wlad yr Anobaith,' ebr y brenin ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu<ref>Rhwbio neu rwtio (ar y tannau)</ref> fyth heb na chlod na chlera.'
{{nop}}<noinclude><references/></noinclude>
l8kglvbqs7jki0lun2evuy452nxw8h6
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/65
104
20477
39271
2022-08-23T11:23:27Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y nesaf a ddaeth at y bar, oedd rhyw frenin agos i Rufain.
'Cyfod dy law, garcharor,' ebr un o'r swyddogion. 'Gobeithio,' ebr hwnw, 'fod genych beth gwell moes a ffafr i frenin."
Syre.' ebr Angeu, 'chwithau ddylasech ddal y tu arall i'r
agendor, lle mae pawb yn freninoedd; ond gwybyddwch nad
oes o'r tu yma yr un ond fy hunan; ac un brenin arall sydd i
waered obry; a chewch weled na phrisia hwnw na minnau yng
ngraddau'ch mawrhydi, eithr yng ngraddau'ch drygioni, i gael
cymhwyso eich cosp at eich beiau; am hyny atebwch i'r holion.'
'Syr,' ebr yntau, gwybyddwch nad oes genych ddim awdurdod
i'm dal nac i'm holi: mae genyf fi faddeuant o'm holl bechodau
tan law'r Pab ei hun. Am i mi ei wasanaethu e'n ffyddlon,
yntau roes i mi gynnwysiad i fyned yn union i Baradwys,
heb aros fynyd yn y purdan.' Wrth hyn dyma'r brenin, a'r
holl gegau culion, yn rhoi oer ysgyrnygfa, i geisio dynwared
chwerthin; a'r llall, yn ddigllon wrth y chwerthin, yn eu
gorchymmyn i ddangos iddo ei ffordd. Taw, ffwl colledig,'
ebr Angeu, tu draw i'r wal o'th ol y mae'r purdan; canys yn
dy fywyd y dylasit ymburo; ac ar y llaw ddeheu, tu hwnt i'r
agendor yna, y mae Paradwys. Ac nid oes dim ffordd bosibl i
ti ddianc weithiau, na thros yr agendor i Baradwys, na thrwy'r
wal derfyn yn dy ol i'r byd; canys, pe rhoit dy freniniaeth
(lle ni feddi ddimai i roi) ni chait gan borthor y drysau yna
ysbio unwaith trwy dwll y clo. Y Wal Ddiadlam<ref>'Diadlam' (o ''di, ad'', a ''llam'')=nas gellir llamu, neidio, neu fyned yn ol ar hyd-ddi wedi yr eler unwaith drosti; diwrthlam. Y mae yn un o'r geiriau mwyaf grymus ac ystyrlawn yn yr iaith.</br>{{c|A'i anadl diadlam dwfn</br>Yn megino mwg aunwfn.</br>—Gwilym Wynn.}}</ref> y gelwir
hon; canys pan ddeler unwaith trwyddi, yn iach fyth ddychwelyd. Ond gan eich bod gymmaint yn llyfrau'r Pab, cewch fyned i gyweirio ei wely ef at y Pab oedd o'i flaen, ac yno
cewch gusanu ei fawd ef byth, ac yntau fawd Luciffer.' Ar
y gair, dyma bedwar o'r mân angeuod yn ei godi, ac yntau
erbyn hyn yn crynu fel dail yr aethnen, ac a'i cipiasant fel y
mellt allan o'r golwg.
Yn nesaf at hwn daeth mab a merch. Ef a fuasai yn
gydymaith da, a hithau yn ferch fwyn, neu yn rhwydd o'i
chorff; eithr galwyd hwy yno wrth eu henwau noethion,
meddwyn a phutain. Gobeithio,' ebr y meddwyn, 'y caf fi
genych beth ffafr; mi yrais i chwi lawer ysglyfaeth dew mewn<noinclude><references/></noinclude>
n4gy5khm2wwvenegoz02v5nt9zoiokq
39272
39271
2022-08-23T11:24:25Z
AlwynapHuw
1710
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>Y nesaf a ddaeth at y bar, oedd rhyw frenin agos i Rufain.
'Cyfod dy law, garcharor,' ebr un o'r swyddogion. 'Gobeithio,' ebr hwnw, 'fod genych beth gwell moes a ffafr i frenin."
Syre.' ebr Angeu, 'chwithau ddylasech ddal y tu arall i'r
agendor, lle mae pawb yn freninoedd; ond gwybyddwch nad
oes o'r tu yma yr un ond fy hunan; ac un brenin arall sydd i
waered obry; a chewch weled na phrisia hwnw na minnau yng
ngraddau'ch mawrhydi, eithr yng ngraddau'ch drygioni, i gael
cymhwyso eich cosp at eich beiau; am hyny atebwch i'r holion.'
'Syr,' ebr yntau, gwybyddwch nad oes genych ddim awdurdod
i'm dal nac i'm holi: mae genyf fi faddeuant o'm holl bechodau
tan law'r Pab ei hun. Am i mi ei wasanaethu e'n ffyddlon,
yntau roes i mi gynnwysiad i fyned yn union i Baradwys,
heb aros fynyd yn y purdan.' Wrth hyn dyma'r brenin, a'r
holl gegau culion, yn rhoi oer ysgyrnygfa, i geisio dynwared
chwerthin; a'r llall, yn ddigllon wrth y chwerthin, yn eu
gorchymmyn i ddangos iddo ei ffordd. Taw, ffwl colledig,'
ebr Angeu, tu draw i'r wal o'th ol y mae'r purdan; canys yn
dy fywyd y dylasit ymburo; ac ar y llaw ddeheu, tu hwnt i'r
agendor yna, y mae Paradwys. Ac nid oes dim ffordd bosibl i
ti ddianc weithiau, na thros yr agendor i Baradwys, na thrwy'r
wal derfyn yn dy ol i'r byd; canys, pe rhoit dy freniniaeth
(lle ni feddi ddimai i roi) ni chait gan borthor y drysau yna
ysbio unwaith trwy dwll y clo. Y Wal Ddiadlam<ref>'Diadlam' (o ''di, ad'', a ''llam'')=nas gellir llamu, neidio, neu fyned yn ol ar hyd-ddi wedi yr eler unwaith drosti; diwrthlam. Y mae yn un o'r geiriau mwyaf grymus ac ystyrlawn yn yr iaith.</br>{{c|A'i anadl diadlam dwfn</br>Yn megino mwg annwfn.</br>—''Gwilym Wynn''.}}</ref> y gelwir
hon; canys pan ddeler unwaith trwyddi, yn iach fyth ddychwelyd. Ond gan eich bod gymmaint yn llyfrau'r Pab, cewch fyned i gyweirio ei wely ef at y Pab oedd o'i flaen, ac yno
cewch gusanu ei fawd ef byth, ac yntau fawd Luciffer.' Ar
y gair, dyma bedwar o'r mân angeuod yn ei godi, ac yntau
erbyn hyn yn crynu fel dail yr aethnen, ac a'i cipiasant fel y
mellt allan o'r golwg.
Yn nesaf at hwn daeth mab a merch. Ef a fuasai yn
gydymaith da, a hithau yn ferch fwyn, neu yn rhwydd o'i
chorff; eithr galwyd hwy yno wrth eu henwau noethion,
meddwyn a phutain. Gobeithio,' ebr y meddwyn, 'y caf fi
genych beth ffafr; mi yrais i chwi lawer ysglyfaeth dew mewn<noinclude><references/></noinclude>
a5ztfqgiyp6youo74i78p1qhz6y7qvi
Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/66
104
20478
39273
2022-08-23T11:39:41Z
AlwynapHuw
1710
/* Proofread */
proofread-page
text/x-wiki
<noinclude><pagequality level="3" user="AlwynapHuw" /></noinclude>llifeiriant o gwrw da; a phan fethais yn lladd ereill, daethym
fy hun yn wyllysgar i'ch porthi.' Trwy genad y cwrt,<ref>''Cwrt'' i feinwar i chwareu.—D. ab Gwilym.</ref> nid
hanner a yrais i iddo,' ebr y butain, 'wedi eu hoffrwm yn
ebyrth llosg, yn gig rhost parod i'w fwrdd.' Hai, hai,' ebr
Angeu, er eich trachwantau melltigedig eich hunain, ac nid
i'm porthi i, y gwnaed hyn oll: rhwymwch y ddau wyneb yn
wyneb, gan eu bod yn hen gyfeillion, a bwriwch hwy i wlad
y tywyllwch, a chwyded ef i'w cheg hi, pised hithau dân i'w
berfedd yntau, hyd ddydd-farn."<ref>'Dydd-farn' (=dydd y farn), yma a manau ereill, yn arg. 1703.</ref> Yna cipiwyd hwythau
allan â'u penau yn isaf.
Yn nesaf i'r rhai hyn daeth saith Recordor:<ref>''Recorder''=Cofiadur.</ref> peri iddynt
godi eu dwylo at y bar; ni chlywid mo hyny, canys yr oedd
y cledrau yn ireidlyd;<ref>Ireidlyd, wedi eu hiro</ref> ond dechreuodd un ddadleu yn hyfach: Ni ddylasem gael dyfyn teg i barotoi ein hateb, yn lle ein rhuthro yn lledradaidd.' 'O, nid ym ni rwymedig i roi
i chwi yr un dyfyn penodol,' ebr Angeu, am eich bod yn
cael ym mhob lle, bob amser o'ch einioes, rybudd o'm dyfodiad
i. Pa sawl pregeth a glywsoch am farwoldeb dyn? Pa sawl
llyfr, pa sawl bedd, pa sawl clul,<ref>Cnul, cnill; cloch a genir ar farwolaeth un</ref> pa sawl clefyd, pa sawl
cenad ac arwydd a welsoch? Beth yw eich cwsg, ond fy
mrawd i? Beth yw eich penglogau, ond fy llun i? Beth yw
eich bwyd beunyddiol, ond creaduriaid ''meirwon''? Na cheisiwch
fwrw mo'ch aflwydd arnaf fi; chwi ni fynech son am y dyfyn,
er ei gael ganwaith.' 'Ertolwg,' ebr un Recordor coch, beth
sy genych i'n herbyn?'
Beth!' ebr Angeu; 'yfed chwys a
gwaed y tlodion, a chodi dwbl eich cyflog.' Dyma wr gonest,'
eb ef, gan ddangos cecryn oedd o'u hol, 'a wyr na wnaethym
i erioed ond tegwch: ac nid teg i chwi ein dal ni yma, heb
genych un bai penodol i'w brofi i'n herbyn.' 'Hai, hai,' ebr
Angeu, cewch brofi yn eich herbyn eich hunain: gosodwch,'
ebr ef, 'y rhai hyn ar fin y dibyn, ger bron gorsedd Cyfiawnder; hwy a gânt yno uniondeb, or nas gwnaethant.'
Yr oedd yn ol eto saith o garcharorion ereill, a'r rhai hyny
yn cadw'r fath drafferth a thrwst; rhai yn gwenieithio, rhai
yn ymrincian, rhai yn bygwth, rhai yn cynghori, &c. Prin
4
5 .<noinclude><references/></noinclude>
ri5qdndnk3mpiy7h5l0fl0zhfsq2371
39274
39273
2022-08-23T11:39:58Z

yn ymrincian, rhai yn bygwth, rhai yn cynghori, &c. Prin<noinclude><references/></noinclude>
5kjlm9s1u9rvq5tesvwn0gi5o3x53r7